Newyddion cyffrous iawn!‘Da ni wrth ein bodd o rannu’r newyddion da ein bod ein cais a gyflwynwyd i Gronfa Dreftadaeth Y Loteri Genedlaethol am grant i wireddu’r cynlluniau ar gyfer y dafarn wedi bod yn llwyddiannus, a bod y gwaith adeiladu yn digwydd yn 2026.
Cliciwch yma am ragor o fanylion
Rydym yn fenter gymunedol sy’n rhedeg Tafarn y Plu a llety Capel Bach yn nghanol pentref hardd Llanystumdwy.
Tafarn y Plu
Ar gau tan Hydref 2026!
Bydd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar y dafarn am rhan fwyaf o 2026 gyda gobaith o ailagor erbyn Hydref 2026.
Cofiwch bydd ein siop fach hunan wasanaeth sydd yn llawn cynnyrch o bob math dal ar agor drwy 2026, bob dydd o 8 o gloch y bore!
Capel Bach
Mae’r capel hunanarlwyo hwn yn darparu llety unigryw i hyd at 6 o bobl, a mae o drws nesaf i Dafarn y Plu.
Mae’r capel hefyd ar gau am y tro oherwydd gwaith adnewyddu.